BYW: Mae cam-drin domestig yn effeithio ar lawer o fywydau

HEB: Dydy cam-drin domestig ddim yn dderbyniol a fydd e ddim yn cael ei oddef

OFN: Gyda’n cymorth ni, FE ALLWCH CHI fyw heb ofn

Dynion sy’n Dioddef Cam-drin Domestig

Yng Nghymru a Lloegr, mae 16% o ddynion wedi profi cam-drin domestig rywbryd yn eu bywydau. Mae ein fideo diweddaraf yn tynnu sylw at un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynion sy’n dioddef – cyfaddef bod problem a magu hyder i siarad amdano.

Os ydych chi neu unrhywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef o gam-drin domestig, da chi, ffoniwch y llinell gymorth nawr ar 0808 80 10 800.

Allwn ni ddim anwybyddu cam-drin domestig

Yng Nghymru a Lloegr, mae 29% o fenywod a 16% o ddynion wedi profi cam-drin domestig rywbryd yn eu bywydau. Ond am fod hynny’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig, caiff y broblem ei hanwybyddu’n aml. Mae effeithiau poenydio corfforol ac emosiynol yn gallu bod yn bellgyrhaeddol, gan gael effaith anferthol ar iechyd y dioddefwr ac unrhyw blant sy’n byw yn y cartref. Mae’r wefan hon yn gwneud safiad yn erbyn cam-drin domestig a’r rhai sy’n ei gyflawni. Mae’n cynnig y cymorth a’r cyngor sydd ei angen ar ddioddefwyr i ddechrau byw bywyd heb ofn ac yn rhoi gwybodaeth werthfawr i’r ffrindiau a’r perthnasau sy’n eu cefnogi.